Text Box: Ann Jones AC, Cadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg
 Christine Chapman AC, Cadeirydd y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol
 William Graham AC, Cadeirydd y Pwyllgor Menter a Busnes
 Alun Ffred Jones AC, Cadeirydd y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd
 David Rees AC, Cadeirydd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol

22 Hydref 2015

Annwyl Gadeiryddion y Pwyllgorau

Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2016-17

Yn ein cyfarfod ar 15 Gorffennaf, cytunodd y Pwyllgor Cyllid i adeiladu ar y dull a ddefnyddiwyd yn y flwyddyn flaenorol i graffu ar gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru.  Oherwydd cyhoeddi dyddiad yr Adolygiad Cynhwysfawr o Wariant, rwyf wedi oedi cyn ysgrifennu at Gadeiryddion y Pwyllgorau hyd nes bod gennym eglurder ynghylch dyddiadau'r gyllideb ddrafft.  Gan fod cytundeb ynghylch y dyddiadau erbyn hyn, rwy'n ysgrifennu at holl Gadeiryddion y Pwyllgorau i rannu ein syniadau ac i annog eich pwyllgorau i ystyried sut y gallant gyfrannu at gyflawni'r gwaith craffu mwyaf rhesymegol ac effeithiol ar gynlluniau gwariant y Llywodraeth.

Ffocws y gyllideb

Wrth graffu ar gyllidebau 2014-15 a 2015-16, cytunodd yr holl Bwyllgorau i fabwysiadu dull cydgysylltiedig yn seiliedig ar y perfformiad a'r canlyniadau sydd i'w sicrhau gyda'r adnoddau sydd ar gael, a'r blaenoriaethau a nodwyd gan y cyhoedd yn gyffredinol (yn seiliedig ar adborth o waith ymgysylltu).

Roedd y dull hwn yn ymwneud â'r pedwar egwyddor o ran craffu ariannol, sef: fforddiadwyedd, blaenoriaethu, gwerth am arian a phroses. Defnyddiwyd yr egwyddorion hyn fel sail ar gyfer holl bapurau briffio, sesiynau tystiolaeth ac adroddiadau'r Pwyllgor. Dyma eich atgoffa o'r egwyddorion yma:

·         Fforddiadwyedd - edrych ar y darlun mawr o ran cyfanswm y refeniw a gwariant, ac a oes cydbwysedd priodol;

·         Blaenoriaethu - a yw'r dyraniadau wedi'u rhannu rhwng sectorau/rhaglenni gwahanol mewn ffordd resymol y gellir ei chyfiawnhau?

·         Gwerth am arian - yn y bôn, a yw cyrff cyhoeddus yn gwario eu dyraniadau yn dda - economi, effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd (hynny yw, canlyniadau; a

·         Phrosesau'r gyllideb - a ydynt yn effeithiol ac yn hygyrch ac a oes integreiddio rhwng cynllunio corfforaethol a chynllunio gwasanaethau, a rheoli perfformiad a rheoli ariannol?

Efallai eich bod hefyd yn cofio ein bod wedi annog y Pwyllgorau yn y blynyddoedd blaenorol i edrych tuag at atal. Eleni, byddem yn eich annog i ganolbwyntio ar wario ataliol a sut y mae'r broses o ddarparu gwasanaethau cyhoeddus yn cael ei thrawsffurfio er mwyn sicrhau eu bod yn gynaliadwy wrth symud ymlaen.

Byddem hefyd yn eich annog i ddilyn argymhellion mewn blynyddoedd blaenorol o ran sut y caiff rhaglen ddeddfwriaethol Llywodraeth Cymru ei hadlewyrchu yn nyraniadau'r gyllideb, ac effaith gronnol deddfwriaeth y Pedwerydd Cynulliad.

Ymgynghoriad drafft y gyllideb

Fel arfer, byddem yn cynnal ymgynghoriad dros doriad yr haf, ond eleni, gyda'r gyllideb ddrafft yn cael ei chyhoeddi cyn toriad y Nadolig, rydym yn defnyddio'r cyfnod hwn fel cyfle i ymgynghori ar y ffigurau gwirioneddol a gyhoeddwyd yn y gyllideb ddrafft.  Gan y bydd yr amser yn gyfyngedig ar gyfer yr ymgynghoriad, byddwn yn cynnal ymgyrch cyfryngau cymdeithasol cyn yr ymgynghoriad, a'r gobaith yw y bydd eich pwyllgorau yn cymryd rhan yn hyn.

Ymgysylltu â rhanddeiliaid

Yn flaenorol, mae'r gwaith sydd wedi'i wneud gan rai pwyllgorau polisi o ran ymgysylltiad pwnc penodol â rhanddeiliaid wedi bod yn ddefnyddiol iawn, ac rydym wedi defnyddio'r adborth o'r digwyddiadau hyn i lunio ein cwestiynau a'n hargymhellion mewn perthynas â'r gyllideb ddrafft. Byddem yn annog pob pwyllgor i ystyried y ffordd orau o ymgysylltu â'u rhanddeiliaid fel rhan o'r broses hon.

Amserlen

Fel y gwyddoch erbyn hyn, mae'r dyddiadau ar gyfer y gyllideb ddrafft bellach wedi'u cytuno fel a ganlyn:

Gosod y gyllideb ddrafft – 8 Rhagfyr 2015

Dyddiad cau ar gyfer adroddiad y Pwyllgor Cyllid – 2 Chwefror 2016

Y gyllideb derfynol – 1 Mawrth 2015

Fel arfer, byddwn yn gofyn i bwyllgorau polisi gyhoeddi eu llythyrau ar ôl craffu ar y gyllideb ddrafft mewn amser i'w cynnwys yn ein hystyriaethau.  Rwy'n gwerthfawrogi efallai nad yw hyn yn bosibl ar gyfer eleni oherwydd yr amser sydd ar gael ac rwyf wedi gofyn i Glerc y Pwyllgor Cyllid drafod hyn gyda chlercod y pwyllgorau polisi er mwyn cadarnhau a oes ffordd o fwydo i mewn i'n gwaith craffu cyffredinol.

Yn olaf, os oes gennych unrhyw gwestiynau am unrhyw agwedd ar broses y gyllideb ddrafft, mae croeso i chi gysylltu â mi neu Bethan Davies, Clerc y Pwyllgor Cyllid ar 0300 200 6372, neu Bethan.Davies@Cynulliad.Cymru.

Yn gywir

Jocelyn Davies

Cadeirydd